Rhif y ddeiseb: P-06-1335

Teitl y ddeiseb: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod

Geiriad y ddeiseb:  

Mae Mencap Cymru yn pryderu y gall y newid tuag at gymdeithas heb arian parod wneud cam â phobl anabl na allant gael mynediad at ddulliau electronig ar gyfer talu.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl ag anableddau dysgu wedi methu talu am nwyddau a gwasanaethau ac wedi gorfod gadael busnesau’n waglaw. Ni chaniateir i weithwyr cymorth ddefnyddio’u cardiau eu hunain, ac ni ddylid disgwyl iddynt wneud hynny.

Mae’n mynd yn anoddach iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau wrth i nifer o fusnesau a sefydliadau droi at systemau electronig o dalu.

 

 

 


1.        Cefndir

Canfu adroddiad diweddar gan UK Finance, cymdeithas fasnach y diwydiant bancio a chyllid, fod bron 40 y cant o bobl yn defnyddio arian parod i dalu am rywbeth o leiaf unwaith yr wythnos, gyda 11 y cant yn dweud bod yn well ganddynt ddefnyddio arian parod a dim ond tri y cant yn dweud nad oeddent erioed wedi defnyddio arian parod o gwbl. Canfu'r adroddiad hefyd fod traean o'r bobl oedd wedi defnyddio arian parod yn y flwyddyn ddiwethaf yn dweud eu bod wedi cael profiad o daliad arian parod yn cael ei wrthod.

 

2.     Senedd y DU

Ar 20 Mawrth cynhaliodd Tŷ'r Cyffredin ddadl ar deiseb sy'n galw ar Lywodraeth y DU i’w gwneud yn ofynnol i bob busnes a gwasanaeth cyhoeddus dderbyn taliadau arian parod.

Mae ymateb Llywodraeth y DU i’r ddeiseb yn nodi:

“The Government does not intend to mandate cash acceptance. The Government’s view is that as technology and consumer behaviour changes, it should remain the choice of individual organisations as to whether to accept or decline any form of payment, including cash or card based on their consideration of factors such as customer preference and cost.

However, the Government recognises that millions of people continue to transact in cash across the UK, particularly those in vulnerable groups, and engages closely with financial regulators to monitor and assess trends relating to cash. Research undertaken by the Financial Conduct Authority found that 98% of small businesses would never turn away a customer if they needed to pay by cash.”

Mae'r ymateb hefyd yn nodi y cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth yn ddiweddar i ddiogelu mynediad at arian parod fel rhan o'r Bil Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd. Mae Llywodraeth y DU o'r farn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cefnogi sefydliadau, gan gynnwys busnesau lleol, i barhau i dderbyn arian drwy sicrhau bod ganddynt fynediad rhesymol at gyfleusterau adneuo.

 

3.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae'r ymateb i'r ddeiseb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip (y Gweinidog) yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi, lle bynnag y bo'n bosibl, yr angen i fusnesau dderbyn arian parod. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn nodi “nid oes gennym lawer o bwerau yn y maes hwn, a mater i’r busnesau yn llwyr yw penderfynu p’un a ydynt am wneud ar sail ystyriaethau masnachol”. Mae'r Gweinidog hefyd yn nodi y gallai fod angen ystyried agweddau yn ymwneud â chydraddoldeb:

"Mae taliadau digidol yn unig, heb opsiwn i dalu ag arian parod yn codi cwestiynau o ran cydraddoldeb. Mae hyn yn effeithio ar unigolion sy’n derbyn ac yn darparu gwasanaethau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gallai mynnu taliadau digidol wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae swyddogion yn bwriadu ymchwilio’n fanylach i hyn."

Mae ymateb y Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a sefydlodd er mwyn datblygu Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl newydd:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi holl bobl anabl Cymru, ac wedi sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a fydd yn weithredol tan 2024. Mae’n dwyn ynghyd bobl â phrofiad bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol er mwyn nodi'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl. Mae’r Tasglu yn gweithio o fewn cwmpas cylch gwaith cyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac nid mewn meysydd sy'n dod o dan gyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn benodol."

Mae disgwyl i Gynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl newydd Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

 

4.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Bumed Senedd ei adroddiad "Mynediad at Fancio".

Canfu'r Pwyllgor dystiolaeth ysgubol o effaith negyddol cau banciau a gostyngiad mewn peiriannau ATM am ddim yng Nghymru, a lleisiodd bryder "yn sicr nid yw Cymru yn barod i roi’r gorau i ddefnyddio arian".

 

Mewn perthynas â mynediad at arian parod, dywedodd LINK, y sefydliad dielw sy'n rheoli’r rhwydwaith LINK ATM, wrth y Pwyllgor, er bod defnydd arian parod wedi gostwng yn gyflym yn ystod y degawd diwethaf a bod disgwyl i hyn barhau, fod mynediad am ddim i arian parod i ddefnyddwyr yn wasanaeth cenedlaethol hanfodol. Dywedodd LINK fod dros 47 y cant o ddefnyddwyr yn dal i ddibynnu ar arian parod ac y byddai cymdeithas heb arian parod yn cyflwyno heriau gwirioneddol i 17 y cant o ddefnyddwyr. Dywedodd y sefydliad defnyddwyr Which? wrth y Pwyllgor ei fod yn pryderu bod y gyfradd y mae mynediad at arian parod yn gostwng yn mynd yn groes i agweddau defnyddwyr a’r galw ganddynt, a'i fod yn cael ei yrru gan ddiwydiant. Rhybuddiodd y gallai cymunedau Cymru golli’r dewis i ddefnyddio arian parod cyn iddynt fod yn barod, ac y gall fod yn gymhleth ailgyflwyno arian os bydd yn diflannu.

Mae'r gostyngiad yn y defnydd o arian parod hefyd yn effeithio ar sut mae busnesau'n dewis derbyn taliadau, gan fod costau ymdrin ag arian parod a derbyn taliadau electronig yn newid dros amser. Nododd y Pwyllgor mai "mater penodol yma yw’r gallu i fusnesau adneuo derbyniadau arian parod, a chost gysylltiedig hynny".

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion, gan gynnwys:

“Argymhelliad 3. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall hybiau rhanbarthol, a chydweithrediad rhwng gwahanol asiantaethau wella’r mynediad at arian parod yng nghymunedau Cymru (gan gydnabod bod trin arian parod yn fusnes drud)."

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad mewn egwyddor.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gref am effaith cau canghennau ar bobl hŷn a phobl anabl yn benodol, a phroblemau allgáu digidol i'r rhai sydd eisoes dan anfantais. Yn hynny o beth, argymhellodd y Pwyllgor hefyd:

“Argymhelliad 10. Dylai cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant digidol flaenoriaethu a) cynnal cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant sgiliau digidol sy’n bodoli eisoes, b) ymgynghori â rhanddeiliaid ar sut i fynd i’r afael ymhellach â’r rhwystrau i bobl hŷn a phobl sy’n agored i niwed gael mynediad diogel at fancio ar-lein, ac c) darparu cymorth ychwanegol i athrawon ddarparu addysg ariannol o fewn y cwricwlwm ysgolion."

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.